Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 31 Mawrth 2022
Amser:
09.02 -
10.31
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
2.1 Derbyniwyd y
cynnig.
3 Trafod ffyrdd o weithio, cynllun strategol a blaenraglen waith y Pwyllgor
3.1 Trafododd yr Aelodau y flaenraglen waith a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion amrywiol. Cytunwyd hefyd i ba feysydd yr hoffent gynnal yr ymchwiliadau polisi nesaf. Dyma hwy:
· Absenoldeb disgyblion
· Gweithredu diwygiadau addysg
· Iechyd Meddwl ym maes Addysg Uwch
· Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gweithio ar y cyd â’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
3.2 Trafododd yr Aelodau'r ffyrdd o weithio a chytunwyd sut yr hoffent ddefnyddio'r slotiau cyfarfod ar gadw yn yr amserlen newydd. Cytunwyd hefyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid yn bennaf.
3.3 Yn dilyn canfyddiadau'r gwaith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, cytunodd yr Aelodau i ddiweddaru'r cynllun strategol i adlewyrchu prif flaenoriaeth plant a phobl ifanc ar yr amgylchedd.
4 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Trefn Ystyried - cytuno cyn trafodion Cyfnod 2
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Drefn y Broses Ystyried.